Llwyau Cariad

Casgliad rhai o'm lwyau gariad 'dw i wedi creu, ag atgynhyrchiadau hanesyddol 'dw i 'di gerfio dros y flynyddoedd.

Beth Yw Llwy Cariad?

Mae Llwyau Caru Cymru yn rhan werthfawr o'n diwylliant a'n treftadaeth. Trwy'r canrifau, trodd yr offeryn cegin sylfaenol yng Nghymru, mewn i symbol o gariad a theyrngarwch y ddyn a cherfiodd hi. Roedd yn ddatganiad o'i deimladau ac yn arwydd o'i sgil gwaith saer. Byddai'n cael ei gynnig i'r fenyw yr oedd am ei phriodi, wedi'i lenwi ag arwyddion a symbolau, amrywiol, pob un yn dal ystyr unigryw a phenodol yn gysylltiedig â'r bywyd yr oedd am ei greu gyda hi.

 

Gellir dod o hyd i'r llwy garu Gymreig hynaf  'dyn ni'n wybod am (sy' dal yn parhai) mewn amgueddfa Sain Ffagan, yn dyddio'n ôl i 1667. Er bod hyn yw'r hynaf i barhau, mae'r arferiad, bron yn sicr, yn lawer henach.

Replica llwy cariad o'r 19fed garif mewn derw.

Replica o lwy garu syml o'r 19eg ganrif mewn derw.

Pam Cerfio Nhw?

Nawr, yn bennaf, mae llwyau caru yn cael eu cynhyrchu ar raddfa fawr, eu gwerthu fel tlysau rhad, addurniadau, neu gofroddion i dwristiaid. Rwy'n teimlo'n wirioneddol ei fod yn lleihau ein traddodiad hyfryd, ac y teimlad y tu ôl i anrheg sydd â chymaint o ystyr a symbolaeth ddwfn. Anrheg sydd wedi'i bwriadu ar gyfer y bobl fwyaf gwerthfawr yn eich bywyd. Dyma pam rwy'n cynnig y gwasanaeth o weithio gyda chi, i greu a cherfio llwyau caru sydd wedi'u cynllunio gyda chariad, ystyr a gofal.

Cerfiad o lwy gariad yn pren ceiriosen cynnwys arth Teddy, llygaid y dydd, a clymau Celtaidd.
Yn dod yn fuan

Llwy garu cyfeillgarwch o arth 'Teddy' wedi'i gwneud yn arbennig ar gyfer rhywun sy'n caru eirth a darllen.

Llwy cariad ceiriosen, wedi'i gerfio ger law, yn ddangos dau gi 'cocker spaniel' a cennin bedr.

Llwy garu ceiriosen am mam dau gi o'i ŵr, wedi'i cherfio o lun o ddau sbaniel cocker annwyl.

Llwy cariad gyda patrwm wedi'i ysbrydoli gan celf y dwyrain canol

Lluniau o lwy gyda chwedl gudd am gellwair fewnol, o gyfarfod i briodas.

Llwy cariad ceiriosen gan Cân Cŷn y Gloran o geffyl, blodau, a rhibyn.

Llwy garu mewn ceiriosen, wedi'i cherfio ar gyfer pen-blwydd ferch 21 oed 'da gariad ceffylau.

Beth Ydw i gallu wneud amdanoch?

Gweithiau unigryw: Gallaf weithio gyda chi i greu rhywbeth sy'n wirioneddol ystyrlon ac yn gynrychioliadol o'r person neu'r cwpl y bwriedir y llwy ar ei gyfer. Gallaf hefyd gynnwys sgrôl bersonol, wedi'i hysgrifennu o'r galon, yn manylu ar y broses, y symbolaeth sydd ynddi, y stori y mae'n ei chynrychioli, a'r teimladau a fwriadwyd y tu ôl i'r anrheg.

 

Atgynhyrchiadau hanesyddol: Os oes gennych chi hen lwy garu yn eich teulu, etifeddiaeth, neu ddim ond hen beth sy'n dod â llawenydd i chi yr hoffech chi ei rannu gyda rhywun arbennig.

 

Adfer: Os oes gennych lwy garu sydd wedi'i difrodi ac sydd angen ei thrwsio neu ei hadnewyddu, mae croeso i chi gysylltu i drafod adferiad..

Llwy cariad derw, yn cynnwys deiamwnt a chennin bedr, wedi'i gerfio gan Cân Cŷn y Gloran
Yn dod yn fuan

Llwy garu derw wedi'i cherfio ar gyfer cwpl hyfryd ar gyfer eu gylchwyl diemwnt.

Llwy cariad yn cynnwys gwreiddiau, blodau, a pot marmite wedi'i gerfio mas o walnut ddu.

Llwy garu wedi'i cherfio ar gyfer cyfeillgarwch cryf gyda blas arbennig!

Y Ddraig goch,wedi'i gerfio mas o ceiriosen gan Cân Cŷn y Gloran

Draig Gymreig Cymru - llwy garu sy'n brathu'n ôl!