Datgloddio Croes Trelales

Darnau gwreiddiol croes Laleston a ddarganfuwyd mewn cae wedi'i aredig (Delwedd o: A corpus of early Medieval inscribed stones and stone sculpture in Wales, Volume 1, Redknap M, & Lewis, J, M., 2007).
Y Groes Gwreiddiol
Yn Drelales 1998, ymwthiodd darn bach allan o gae wedi'i aredig, i weld y golau unwaith eto ar ôl oes anhysbys o dywyllwch. Yn fuan wedyn, o dan y ddarn gyntaf, darganfuwyd yr ail. Wedi'i gerfio o dywodfaen lleol, llwyd wen yn wreiddiol, mae'n rhaid bod y groes blethedig hardd hon wedi bod yn llawenydd i'w weld.
Mae wedi'i dyddio i'r unfed ganrif ar ddeg, neu ddechrau'r ddeuddegfed ganrif, ac mae gan ymlediad braich y darnau faint mwyaf o tua ugain modfedd.
Y Broses Ailadeiladu
Mae cael dwy fraich hollol gyfan yn gwneud ail-greu'r groes hon, yn gywir, llawer mwy posibl nag y gallai fod wedi bod. Yn ffodus, roedd fy ail-greu o'r darn hwn yn llawer haws gyda'r ffaith nad oedd rhaid i mi ail-greu'r groes o gwbl. Roedd y groes wedi gael ei ail-greu yn barod gan arbenigwyr a geir yn 'A corpus of early Medieval inscribed stones and stone sculpture in Wales, Volume 1' gan Mark Redknap a John M. Lewis (weld Llun 2: 'Wyneb A' y groes) . Ni allaf argymell y llyfr hwn ddigon (ynghyd â 'Volumes 2-3' gan Nancy Edwards). Maent, wrth gwrs, yn llyfrau cyfeirio academaidd, felly yn sicr nid darllen ysgafn! Fodd bynnag, fel cyfrol o wybodaeth am y cerrig cerfiedig canoloesol sydd wedi'u gwasgaru ledled Cymru, nid oes cyffelyb.

1

2

3
Y Broses Cerfio
Mae gen i fan meddal arbennig yn fy nghalon am y groes benodol hon. Ni allaf ddweud yn iawn beth ydyw, ond rwy'n gweld rhywbeth gwirioneddol brydferth a thawel amdani. Pan welais i hi gyntaf, roeddwn i'n dychmygu planedau mewn orbit pryd bynnag y byddwn i'n edrych arni, er bod y ddelwedd honno wedi'i disodli'n araf gan y llysenw a roddodd fy mam iddi ar ôl i mi gerfio'r un gyntaf iddi (Llun rhifau 1 a 3): 'Y Codennau Pys'. Pwy ydw i i ddadlau? Byddai gen i ddiddordeb mewn gwybod beth mae pobl eraill yn ei weld ynddi.
Cipiodd y syniad o sut roedd y groes hon wedi'i chuddio yn y baw am oesoedd, wedi'i thorri'n ddarnau, fy nychymyg. Pam y gafodd ei chladdu yno? Beth oedd wedi digwydd? Mae llawer o hanes cudd o amgylch yr ardal a phwyntiau eraill o ddiddordeb ledled y lle, gan gynnwys 'Laleston's Stone Trail' y gall pobl gerdded. Beth oedd y stori y tu ôl iddi? Beth bynnag oedd yr achos, roeddwn i wir eisiau dod â harddwch y groes hon yn ôl i'r byd i bobl ei gweld. Defnyddiais bren derw i gerfio'r groes benodol hon a'i orffen gyda gorffeniad ffilm naturiol sy'n rhoi cynhesrwydd a lliw hyfryd iddi. Mae'n ddewis rwy'n falch fy mod i wedi'i wneud. Mae'n rhoi gwên i mi bob tro rwy'n ymweld â fy mam ac yn ei weld yn hongian ar y mur.

Mwy o wybodaeth
Os hoffech gomisiynu cerfiad pren, ymholi am ail-greu neu adferiad, mae croeso i chi gysylltu â mi gan ddefnyddio'r ffurflen 'Comisiynu Gwaith' neu'r dudalen 'Cysylltwch'.
Hefyd, os oes gennych ddiddordeb, cymerwch olwg ar fy ngwerthdy. Byddaf i'n dechrau rhoi rhai o fy ngherfiadau, darnau dodrefn ac eitemau pren ar werth yn y dyfodol agos iawn, felly cofiwch gadw fy nhudalen a ddychwelyd o bryd i bryd i weld beth rydw i 'di bod yn wneud!
Hwyl am y tro.