Y Gerfiwr
Shwmae, Arwyn 'dw i. O wlad y ddreigiau yn gwreiddiol, symudais i bach bellach i'r ogledd, lan i'r Alban, nid rhy hir yn ôl. Des i lan 'ma i fod gyda'm wraig. Pan nag ydwyf yn gerfio, dw i'n canu'r piano, cloddio tatws, neu'n edrych am direidi 'da'n gi bach goch.
Taith i Heddwch
Wedi'i ddechrau flynyddoedd yn ôl fel math o therapi, gyda llwy cariad bach i fy mam arbennig, gwnaeth graen y pren arwain fi a fy ngŷn i lawr llwybyr wnes i byth disgwyl. Angerdd a chariad y pren a fydd yn fy nilyn i i'r bywyd nesaf. Hyd i heddiw, rydw i'n dilyn llwybrau'r graen i heddwch, gyda offerau llaw traddodiadol yn fy nwrn, a'r Awenau'n sibrwd yn fy nglust.
Pam dilyn crefft sy'n ar fin marw?
Mae harddwch yn yr amherffeithrwydd. Mae gan beiriannau eu le ond, am wir harddwch, nid oes cymhariaeth i law natur. Er, yn wir, ei bod hi'n anodd iawn cystadlu â ffatrïoedd a cherfwyr o dramor, rwy'n credu ei bod hi'n werth yr ymdrech er mwyn cadw gafael ar ran o'n treftadaeth, a chadw ein celf yn fyw. Rwy'n dwlu ar allu cynnig darnau unigryw yn llwyr. I greu anrhegion a gweithiau gyda gwir ystyr i bobl sy'n eu werthfawrogi.